top of page

CAPEL CYMRAEG EALING GREEN

Hanes

Gosodwyd carreg sylfaen capel Ealing Green gan Margaret Lloyd George yn 1908, ac agorwyd y capel ar y Sul cyntaf o 1909. O 1903 hyd at yr amser hwnnw, roedd aelodau'r capel wedi bod yn cyfarfod yn gyntaf yn yr YMCA ar Ffordd Uxbridge ac yna mewn ystafelloedd wedi rentio yn y Swift Rooms.

 

Parchedig David Jeffrey Davies oedd gweinidog cyntaf y capel; dechreuodd fel gweinidog ar 23 Ebrill, 1929. Cafwyd cyfnod llwyddiannus iawn i'r capel yn y blynyddoedd cynnar yna, ac erbyn 1933, tyfodd aelodaeth y capel i 241 o bobl.

 

Dilynwyd Parchg Davies gan Parchedig J Herbert Roberts ar ôl yr ail ryfel byd. Yn 1952, ychwanegwyd neuadd at adeiladau'r capel ar gyfer cyngherddau, cyfarfodydd a meithrinfeydd.

 

Daeth Parchedig WT Phillips, Llansteffan, yn weinidog yn y 50au hwyr, cyfnod pan yr oedd yn weinidog capel Cymraeg Hammersmith a chapel Ealing Green ar yr un pryd. Daeth Parchedig Gwilym Rees yn weinidog yn dilyn marwolaeth Parchg Phillips yn 1963, ac yna Parchedig Denzil Harries.

 

Ym mis Mehefin 1972, caeodd y capel Cymraeg yn Hammersmith ac unodd aelodaeth y capel hwnnw gyda'r aelodaeth yn Ealing Green. Mae plâtiau coffa am aelodau capeli Hammersmith a Willesden Green a laddwyd yn y Rhyfel Fawr ar y wal yn Seion. Mae cofeb am  aelodau o Ealing  Green (sylwch nid oedd yn cael ei alw yn Seion nes 1972 )a laddwyd yn y "Blitz" hefyd ar y mur yn nghapel Seion.

 

Yn 1994 daeth y Parchedig Byron Evans yn weinidog, a cynhaliodd ofalaeth rhyng-enwadol gyda eglwys y Bedyddwyr Cymru ar Stryd y Castell, ger Oxford Circus. Yn anffodus, ni wnaeth gweinidogaeth y Parchedig Byron Evans barhau am fwy na thair mlynedd oherwydd salwch. Daeth y Parchedig Anthony Williams yn weinidog yn 1998.

 

Cynhaliwyd y Parchedig Anthony Williams y weinidogaeth tan 2009, cyfnod oedd yn cynnwys ofalaeth ar y cyd gyda'r Parchedig Dafydd H Owen o 2000 hyd at 2003.

 

Y Parchedig Richard Brunt ydy ein gweinidog presennol; sefydlwyd y Parchedig Brunt yn weinidog yn 2010. Mae gweinidogaeth y Parchg Brunt yn ofalaeth ar y cyd gyda Clapham , Jewin ac Eglwys y Drindod Cockfosters.

 

Diolch i Huw Edwards am grynodeb o hanes Capel Seion yn ei lyfr "City Mission".

bottom of page