top of page

CAPEL CYMRAEG EALING GREEN

Ysgol Sul

Derbynnir fod gan Capel Seion yr Ysgol Sul fwyaf allan o'r holl gapeli Cymraeg yn Llundain. Mae Ealing yn ardal boblogaidd gyda theuluoedd ifanc ac mae'r Capel yn agos at yr Ysgol Gymraeg sydd hefyd wedi ei leoli yng Ngorllewin Llundain.

 

Ar foreuon Sul mae'r Ysgol Sul yn croesawu 15 i 20 o blant. Bydd y plant yn aml yn perfformio caneuon, darllen penillion, ac hyd yn oed yn arwain y wasanaeth ar achlysuron arbennig.

 

Mae pob dyddiad o bwys yn y dyddiadur yn cael ei dathlu yn yr Ysgol Sul, gan gynnwys Dydd Gŵyl Dewi, y Pasg, diolchgarwch a'r Nadolig. Mae'r Nadolig hefyd yn rhoi chyfle i'r plant berfformio drama Nadolig, a wedyn dathlu gyda barti Nadolig yn neuadd yr eglwys.

 

Mae croeso mawr yng nghapel Seion i deuluoedd newydd. Mae'r plant yn anochel yn gwneud ffrindiau da yn yr Ysgol Sul, heb sôn am y cyfeillgarwch mae'r rhieni yn mwynhau yn yr eglwys hefyd.Mae llawer o gyfleuon i wneud ffrindie gyda theuluoedd o'r capeli eraill yn Llundain hefyd trwy achlysuron ar y cyd fel yr Eisteddfod plant  (Gwanwyn), y Gymanfa Ganu (Mai) , Picnic (Haf) a Sul yr Urdd

( Hydref).

 

Os hoffech wybod mwy am unrhyw agwedd o'r Ysgol Sul, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni.

 

Joanna Wright : joanna.thomas@agilitie.com

Mair Beetham : andy.beetham@btinternet.com

bottom of page